Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Cardiff

CF99 1NA

 

Annwyl Aelodau’r Pwyllgor

 

Yn dilyn eich llythyr dyddiedig 4ydd Mehefin 2018, hoffwn fel Arweinydd y Cyngor, gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo gyda’r ymchwiliad. Yn unol â’ch cais, rwyf wedi ceisio defnyddio cylch gorchwyl y pwyllgor wrth lunio fy ymateb.

 

− Deall pwysigrwydd amrywiaeth ymhlith cynghorwyr lleol, gan gynnwys yr effaith ar ymgysylltu â’r cyhoedd, trafod a gwneud penderfyniadau.

 

Yn annatod, mae sicrhau amrywiaeth ymhlith cynghorwyr lleol yn allweddol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg o’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi.  Mae sicrhau clywed llais pawb, gwrando ar wahanol farn, a gwneud y gorau dros gymdeithas yn holl bwysig.  Rwy’n llwyr gefnogol i geisio sicrhau fod Aelodau Cyngor Gwynedd yn cynnwys amrywiaeth o ran oedran, rhyw, cefndir ethnig ac anabledd, a bod unrhyw un sy’n dymuno sefyll mewn etholiad yn gyfforddus i wneud hynny.  Mae sicrhau ystod o wahanol bobl am arwain at well ymgysylltu gyda’r cyhoedd, deall eu hanghenion yn well, ac arwain at well penderfyniadau rŵan ac i’r dyfodol. 

 

− Deall y prif rwystrau i ddenu cronfa fwy amrywiol o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.

 

Rydym yn ymwybodol fod nifer uchel o unigolion yn weithgar iawn yn wirfoddol yn eu cymdeithas er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w cymdeithas a’u milltir sgwâr.  Mae’r awydd yma i wneud gwahaniaeth yn un o’r prif resymau y mae unigolion yn penderfynu sefyll mewn etholiadau llywodraeth leol.  Fodd bynnag, mae cryn flwch rhwng y niferoedd sy’n gwirfoddoli yn eu cymdeithas a’r rhai sydd wedyn yn dewis sefyll mewn etholiad.

 

O waith ymchwil gan y Cyngor dros y blynyddoedd, rwy’n deall fod rhai o’r prif resymau fel a ganlyn:

 

Gofynion ac amser –   Mae ceiso’r balans rhwng gwaith ward, gwaith Cyngor a gwaith cyflogedig, yn ogystal a bywyd teuluol a chymdeithasol wedi ei nodi fel cryn her.  Mae’r disgwyliadau cynyddol am ymateb “ar unwaith” hefyd yn golygu gofynion uchel ar aelod etholedig.

 

Cyflog - Nodwyd uchod fod balansio gofynion rôl aelod etholedig gyda gwaith cyflogedig yn her fawr.  Un ateb posib i hyn yw sicrhau tâl priodol ar gyfer aelodau etholedig fyddai’n caniatáu i bobl oedran gwaith i ennill cyflog sy’n “cystadlu” â chyflogau byd gwaith.  Byddai hynny yn galluogi mwy o amrywiaeth o bobl i ystyried sefyll mewn etholiad, yn hytrach na rhai sydd wedi ymddeol yn unig.   

 

Yn ogystal, byddai’n fanteisiol petai Panel Annibynnol ar gydnabyddiaeth Ariannol yng Nghymru yn gallu edrych ar gynorthwyo aelodau sydd â phlant (yn arbennig rhieni sengl) ac felly angen gwneud cais am fudd-dal treth teulu (Family Tax Credit).  Nid yw’r trefniadau presennol yn hwylus nac yn cynorthwyo unigolion yn y fath sefyllfa.

 

Awyrgylch/ trefniadau democrataidd

Mae nifer wedi nodi fod amgylchiadau ffurfiol o fewn siambrau’r Cyngor yn eu dychryn/ gwneud iddynt deimlo yn anghyfforddus, a’u bod “ofn” lleisio barn mewn amgylchiadau o’r fath.  Efallai y byddai fforwm trafod llai ffurfiol (llai ffurfiol na siambrau) yn annog mwy i gymryd rhan. 

 

Mae eraill hefyd wedi nodi fod diffyg hyder ganddynt yn y drefn a’u cyd-aelodau – pryder nad yw llais pawb am gael parch a gwrandawiad, yn arbennig yr ifanc/ aelodau newydd yn teimlo fod aelodau mwy profiadol yn “edrych i lawr” arnynt.

 

Hyder

Elfen arall yw diffyg hunan-hyder i sefyll yn gyhoeddus a siarad yn gyhoeddus o flaen nifer o bobl.

 

Bwlio/ beio ayyb

Elfen arall sydd wedi ei nodi yw bwlio.  Rhaid cydnabod fod pob ffigwr cyhoeddus yn agored i feirniadaeth, a bod elfen o hynny’n annatod.  Mae’r llinell lle mae hynny’n symud o ‘dderbyniol’ i ‘bwlio’ yn amrywio o berson i berson.

Mae rhai Cynghorwyr wedi nodi ymdeimlad o fwlio gan gyd-aelodau drwy dorri ar draws a gweld beiau yn hytrach na pharch i farn pawb, a bwlio gan aelodau’r cyhoedd am benderfyniadau anodd sy’n rhaid i aelodau eu cymryd.  Gall y bwlio fod pan fo aelod o’r cyhoedd yn anghydweld gyda phenderfyniad eu aelod etholedig, er fod barn yr aelod o’r cyhoedd yn aml yn seiliedig ar anwiredd yn hytrach na’r gwir sefyllfa.

 

− Trafod meysydd arloesodd ac arfer da a all helpu i gynyddu amrywiaeth ym maes llywodraeth leol.

 

Cefnogaeth i bobl i sefyll. 

Mae rôl i bleidiau gwleidyddol yn amlwg yn y maes yma i geisio annog mwy o bobl o wahanol gefndiroedd i sefyll.  Fodd bynnag, mae rôl i’r Cyngor hefyd, trwy gynnig gwybodaeth a chefnogaeth i ddarpar ymgeiswyr ee esbonio’r gofynion, esbonio’r hyn i ddisgwyl yn realistig o flaen llaw.  Gwnaethpwyd ymarferiad o’r fath cyn etholiadau Mai 2017, ond isel fu’r niferoedd wnaeth gymryd mantais o’r sesiynau a gynhaliwyd.

 

Mae cyfle i gychwyn gyda’r bobl ifanc yn ein ysgolion, gan esbonio rôl llywodraeth leol a rôl cynghorwyr mewn ffordd syml a dealladwy.  Mae angen tanio dychymyg yr ifanc mor fuan a phosib fel y gwelir gwelliant mewn amrywiaeth maes o law.

 

Mae cyfle hefyd i weithio yn agosach gyda chynghorau cymuned – gan alluogi pobl i fagu profiad mewn cyngor cymuned, ac yna symud ymlaen i lywodraeth leol.  Fodd bynnag, mae’r cwestiynau am ofynion, amser a chyflog yr un mor berthnasol i gynghorau cymuned.

 

Wrth i’r ffigurau o gynrychiolaeth o wahanol grwpiau (merched, yr ifanc, anabl etc) gynyddu ar lawr y siambr, bydd yn arwain at “effaith domino”, gyda mwy o bobl ifanc/merched yn gweld lle iddynt hwy o fewn llywodraeth leol.

 

 

− Trafod effaith bosibl y cynigion ym Mhapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru, Cryfhau Llywodraeth Leol i gynyddu amrywiaeth yn siambrau’r Cyngor.

 

Roedd fy ymateb ar ran Cyngor Gwynedd i’r papur drafft yn amlygu’r angen i symleiddio trefniadau llywodraethu yng Nghymru ar bob haen -  o Lywodraeth Cymru i Gynghorau Cymuned. Mae cymhlethdod ‘pwy sydd á chyfrifoldeb am beth’ a’r diffyg eglurder ac atebolrwydd yn arwain sefyllfa a threfniadau cymhleth.  Sgil effaith hyn yw fod pobl yn colli diddordeb mewn democratiaeth,  yn sicr nid yw’n annog unigolion i gymryd rhan.

 

Yn ogystal, byddai papur gwyrdd yn galluogi Llywodraeth Leol i weithredu a chymryd cyfrifoldeb a’u gyflawni i’w drigolion yn lleol yn debygol o ddenu mwy i wasanaethau fel aelod etholedig gan gymryd y cyfle i wneud gwahaniaeth.